Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 8 Mai 2017
Amser: 14.02 -
16.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4107
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
John Howells, Llywodraeth Cymru Ian Williams, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Alistair McQuaid Mike Usher Emma Woodcock Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod PDF (999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn eu hadroddiad.
3.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ofyn am sicrwydd pellach gan Lywodraeth Cymru ynghylch ymdrin â gwrthdaro canfyddedig a all ddigwydd y tu hwnt i ffin wirioneddol etholaeth Gweinidog yn y dyfodol.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Bu'r Aelodau yn holi John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, ac Ian Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd, o Lywodraeth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai Cymru.
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.2 Cytunodd Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn fersiwn o adroddiad Ymchwiliad Statudol ar Gymdeithas Tai Tai Cantref wedi'i hailolygu'n synhwyrol i guddio rhai enwau neu eiriau allweddol. Os nad yw'r ymateb yn gadarnhaol, cytunwyd y dylid defnyddio pwerau'r Cynulliad (o dan Adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) i gael copi o'r ddogfen.
7.1 Cynhaliodd Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio i'r Aelodau ar ei adroddiad diweddar ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru.
7.2 Mae Aelodau wedi nodi'n flaenorol eu bod yn dymuno craffu ar Lywodraeth Cymru ynghylch y mater hwn. Mae cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru wedi'u gwahodd i gyfarfod y Pwyllgor ar 12 Mehefin.